English

Newyddion

Newyddion

Croeso i wefan newydd Cyngor Bro Llanbrynmair.

Os hoffech i ni cynnwys newyddion sydd o diddordeb i ardal Llanbrynmair, cysylltwch a ni gyda awgrymiadau.

Ebrill 10fed 2024

Mae cyfrifon 2022-23 wedi cael cael eu archwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru ac mae'r adroddiad yn barod i'w cyflwyno wrth clicio ar y cyswllt yma

 

Sioe Llanbrynmair

Ar ôl rhai blynyddau hebddi, cawsom sioe arbenning iawn o'r diwedd elenni. Gyda amrywiaeth gwych o arddangosfeydd, gweithgareddau a chymeriadau, roedd hyd yn oed y tywydd yn gwenni arnom.

Sioe 2022 1.jpgSioe 2022 2.jpgSioe 2022 3.jpgSioe 2022 4.jpgSioe 2022 5.jpgSioe 2022 6.jpgSioe 2022 7.jpgSioe 2022 8.jpg

Taith tractor

Taith Tractor Llanbrynmair ar y 22ain o Mis Awst 2021 er côf Eleri Evans, arian a chasglwyd yn mynd i’r Tîm Oedolion Diabetes Bronglais. 25 milltir mewn haul bendigedig trwy Darowen a Commins Coch.

Tractors.jpg

More tractors.jpg

Sioe Llanbrynmair

Sioe Llanbrynmair Mis Medi 2018 - uchafpwynt y flwyddyn gyda'r amrywiaeth arferol yn cynnwys llysiau, cwn, gwisgoedd, rhedeg, beicio a cneifio.

IMG_3115.JPG             IMG_3118.JPG

IMG_3117.JPG        IMG_3111.JPG

IMG_3109.JPG              IMG_3112.JPG

5ed Mis Mehefin 2018

Mae'r rhieni a'r plant wedi bod yn brysur iawn yn y cae chware yn adeiladu, llenwi a plannu gerddi. Diolch mawr i Ben Davies am y pridd, i'r Police Benevolent Fund am y sied ac i Nicky Arscott am drefnu popeth. Mae ganddynt cynlluniau mawr ar gyfer gardd cymunedol felly gwyliwch allan am ddatblygiadau.

Playpark1.jpgplaypark2.jpgplaypark3.jpg

Map Llanbrynmair 1841

Mae Cyng. Emyr Lewis wedi rhoi benthyg y map arbennig yma o 1841 i Cyngor Llanbrynmair er mwyn ei rhoi ar wal o fewn neuadd y Ganolfan Cymunedol i bawb cael ei weld. Ar hyn o bryd mae'r map yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn cael ei adnewyddu a'i osod ar ford a'i orchuddio er mwyn ei arddangos yn saff. Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth y Fferm Wynt.

map title.jpgwhole map.jpg

10fed Mis Ebrill 2018

Hoffem diolch yn fawr i Cyngor Sir Powys, ffermwyr a thrigolion lleol am yr ymdrech fawr i cadw ein ffyrdd yn glir yn ystod eira trwm. Roedd yna gryn dipyn o gymorth ar gael i rheini llai abal a llawer yn mynd allan o'u ffordd i weithio o dan amgylchiadau anodd.

snow.jpg

13eg Mis Chwefror

Ar ol naw mlynedd o trafodaethau mae gennom ni lloches bws newydd yn Nhalerddig.

Lloches bws small.jpg