Newyddion
Os hoffech i ni cynnwys newyddion sydd o diddordeb i ardal Llanbrynmair, cysylltwch a ni gyda awgrymiadau.

Hysbysiad ar gyfer awdit 2025-26 - gwahoddiad i etholwyr astudio cyfrifion a llywodraethiant Cyngor Cymuned Llanbrynmair . Awdit mewnol wedi ei cwbwlhau, awdit Llywodraeth Cymru i ddod.

Sbwriel a Sbri
Mae'r grŵp casglu sbwriel yn cwrdd pan mae'n bosib er mwyn tacluso'r ardal. Maent yn cydlynnu ymdrechion gyda Cadw Cymru'n Daclus sydd wedi cyfrannu offer ac yn rhoi cyngor a chymorth cyffredinol. Os ydych am ymuno a nhw, cysylltwch â'r Clerc.

Diffibrilwyr
Rydym wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn diffibrilwr newydd i'r gymuned yn rhodd gan Hufenfa De Arfon (Facebook www.facebook.com/SCCWales/). Mae'r teclyn wedi cael ei osod ar wal y toiledau cyhoeddus gan Cyng. Ifan Edwards sydd yn edrych ar ôl holl diffibrilwyr yr ardal. Gwelwch rhestr y lleoliadau i gyd ar y tudalen Hafan ac rydym yn gwerthfawrogi ei waith gwirfoddol yn fawr.
Dyma Cyng. Fiona Cauley (o'r chwith), Cyng. Ifan Edwards a Cyng. Gwyndaf Davies wrth yr offer ger y toiled i'r anabl. Diolch yn fawr i Hufenfa De Arfon am eich cyfraniad i gymuned Llanbrynmair i cadw pawb yn saff ac yn iach.




Tender 16/05/2025


Datblygiadau yng nghae mawr y gymuned
Llynedd, fe agorwyd y cae cymunedol i’r cyhoedd ac yn awr, mae angen i ni gwahodd adborth a syniadau ar gyfer ei ddatblygiad i’r dyfodol.
Rydym am creu cyfle diogel i chwarae ac ymarfer corff yn yr awyr agored ar gyfer pob oedran ac am gael eich cymorth a’ch syniadau.
Mae costau torri gwair yn costion £2000 y flwyddyn ac yn cael ei dalu gan Cronfa Melinau Gwynt Llanbrynmair. O dro i dro mae yna grantiau arall ar gael ond mae angen dangos tystiolaeth o ymgynhoriad a menter cyhoeddus er mayn gwneud cais amdanynt.
A wnewch chi ateb yr holiadur ar y linc yma os gwelwch yn dda a rhowch y ffurflen yn ôl i Jo yn y siop, neu i Sarah Reast, y Clerc gyda’r cyfeiriad ar y tudalen Cysylltu â Ni? Cofiwch bod rhaid i’r cae cael ei glirio pob blwyddyn ar gyfer y sioe felly nid oes modd rhoi strwythurau parhaol yna heblaw am ar yr ymylon.
Cylchlythyr diweddaraf gan Ganolfan Iechyd Bro Ddyfi - cliciwch yma os gwelwch yn dda
Beinciau a biniau
Mae'r Gronfa Melinau Gwynt wedi bod yn prynu beinciau newydd i'w osod o gwmpas y lle pan fydd trigolion wedi gofyn am sedd i orffwys. Dyma'r un diweddaraf yn Nolfach. Bydd yr un arian rwan yn cael ei defnyddio i prynu binau grit a halen newydd yn ôl yr angen. Dyma'r un cyntaf yng Nghlanclegyr. Rydym yn arbrofi efo'r math yma o byncer glo i weld os ydynt yn haws i cloddio allan na'r biniau arferol.


Cau’r A470 o 20fed o mis Ionawr am 12 wythnos i trwsio’r ffordd
Dyma darlun o’r prosiect (traws doriad o’r ffordd) i ddangos maint a her y gwaith sydd angen ei wneud. Cliciwch yma am nodiadau o cyfarfod rhwng cynrichiolwyr lleol a’r Asiantaeth Cefnffyrdd ar Ddydd Mercher y 9fed o Mis Hydref sydd yn fwy cynhwysfawr ac yn cynnwys atebion i’r holl gwestiynnau ac ofynwyd. Cliciwch yma am nodiadau ychwanegol o cyfarfod a cynhalwyd ar y 6ed o mis Ionawr gyda trigolion Bont a Llan.

Mae Awdit Cymru wedi cwbwlhau'r awdit o cyfrifion y Cyngor ar gyfer y blwyddyn ariannol 2023-24 ac maen't ar gael i'w weld.

Ebrill 10fed 2024
Mae cyfrifon 2022-23 wedi cael cael eu archwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru ac mae'r adroddiad yn barod i'w cyflwyno wrth clicio ar y cyswllt yma
Sioe Llanbrynmair
Ar ôl rhai blynyddau hebddi, cawsom sioe arbenning iawn o'r diwedd elenni. Gyda amrywiaeth gwych o arddangosfeydd, gweithgareddau a chymeriadau, roedd hyd yn oed y tywydd yn gwenni arnom.








Taith tractor
Taith Tractor Llanbrynmair ar y 22ain o Mis Awst 2021 er côf Eleri Evans, arian a chasglwyd yn mynd i’r Tîm Oedolion Diabetes Bronglais. 25 milltir mewn haul bendigedig trwy Darowen a Commins Coch.


Sioe Llanbrynmair
Sioe Llanbrynmair Mis Medi 2018 - uchafpwynt y flwyddyn gyda'r amrywiaeth arferol yn cynnwys llysiau, cwn, gwisgoedd, rhedeg, beicio a cneifio.
5ed Mis Mehefin 2018
Mae'r rhieni a'r plant wedi bod yn brysur iawn yn y cae chware yn adeiladu, llenwi a plannu gerddi. Diolch mawr i Ben Davies am y pridd, i'r Police Benevolent Fund am y sied ac i Nicky Arscott am drefnu popeth. Mae ganddynt cynlluniau mawr ar gyfer gardd cymunedol felly gwyliwch allan am ddatblygiadau.



Map Llanbrynmair 1841
Mae Cyng. Emyr Lewis wedi rhoi benthyg y map arbennig yma o 1841 i Cyngor Llanbrynmair er mwyn ei rhoi ar wal o fewn neuadd y Ganolfan Cymunedol i bawb cael ei weld. Ar hyn o bryd mae'r map yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn cael ei adnewyddu a'i osod ar ford a'i orchuddio er mwyn ei arddangos yn saff. Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth y Fferm Wynt.


10fed Mis Ebrill 2018
Hoffem diolch yn fawr i Cyngor Sir Powys, ffermwyr a thrigolion lleol am yr ymdrech fawr i cadw ein ffyrdd yn glir yn ystod eira trwm. Roedd yna gryn dipyn o gymorth ar gael i rheini llai abal a llawer yn mynd allan o'u ffordd i weithio o dan amgylchiadau anodd.

13eg Mis Chwefror
Ar ol naw mlynedd o trafodaethau mae gennom ni lloches bws newydd yn Nhalerddig.

